Swyddfa Docynnau
01792 863722

Bydd BIG COUNTRY yn perfformio clasuron a ffefrynnau’n fyw gan gynnwys Harvest Home – Fields of Fire – In A Big Country – Chance – Wonderland – Look Away – The Teacher a llawer mwy…
Gyda thoreth o ganeuon llwyddiannus gwefreiddiol a phoblogaidd, megis ‘Fields of Fire’, ‘Chance’, ‘In A Big Country’ (a werthodd 2 filiwn o gopïau), ‘East Of Eden’ a’u cân fwyaf lwyddiannus yn y DU, ‘Look Away’, yn ogystal ag albymau hynod lwyddiannus megis ‘The Seer’, ‘Steeltown’, ‘Peace In Our Time’ a ‘The Crossing’ – a enwebwyd ar gyfer tair gwobr Grammy, mae BIG COUNTRY yn parhau i edrych y tu hwnt i’r gorwel nesaf.
Bydd y band – BRUCE WATSON (gitâr/llais); MARK BRZEZICKI (drymiau, llais); JAMIE WATSON (gitâr/llais) – yn cael eu cefnogi ar y llwyfan gan y canwr/gitarydd SIMON HOUGH a’r gitarydd bas SCOTT WHITLEY.
Sefydlwyd y band ym 1981 gan y gitaryddion Stuart Adamson a Bruce Watson, yr hanai’r ddau ohonynt o dref enedigol y band, sef Dunfermline yn yr Alban. Wedi’i hysgogi ar y dechrau gan weledigaeth a rennid o alawon gitâr, harmonïau a geiriau helaeth, cafodd sain glasurol Big Country ei chyfoethogi ymhellach yn ddiweddarach yr haf hwnnw pan gyrhaeddodd y drymiwr Mark Brzezicki a’r gitarydd bas Tony Butler. Dyma’r Big Country a recordiodd (ar y cyd â’r cynhyrchydd Steve Lillywhite) yr albwm cychwynnol clasurol, ‘The Crossing’, ym 1983.
Cafodd y band lwyddiant anferthol byd-eang pan ryddhawyd senglau clasurol o’r albwm, sef ‘Fields Of Fire’, ‘Chance’ a’r arwydd-gân ‘In A Big Country’, a oedd yn ganeuon hynod lwyddiannus ledled y byd gan werthu dros 2 filiwn o gopïau ac arwain i ‘The Crossing’ gael ei enwebu ar gyfer 3 gwobr Grammy nodedig yn UDA.
Parhâi’r llwyddiant trwy gydol y 1980au pan ryddhawyd y sengl anthemig ‘Wonderland’ a’r ail albwm ‘Steeltown’ (1984), a aeth yn syth i rif 1 yn y DU ac a oedd yn cynnwys y senglau llwyddiannus ‘East Of Eden, ‘Just a Shadow’ a ‘Where The Rose Is Sown’.

Running Time: 120 minutes
Dyddiad
Amser
Mawrth 27/06/2017
10:23

Ewch i'n chwaer lleoliadau...

MENU

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close