Swyddfa Docynnau
01792 863722

Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd

 

Dwy ddrama gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar.

 

Merched Caerdydd

gan Catrin Dafydd

 

Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?

 

Nos Sadwrn o Hyd

gan Roger Williams

 

Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul.  Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.

 

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes ac OOMFF gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd

 

Running Time: 120 minutes
Dyddiad
Amser
Mercher 24/04/2019
1:59

Ewch i'n chwaer lleoliadau...

MENU

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close