Welcome to the Events listings for the Pontardawe Arts Centre Simply choose an event from the list below or select a date to view. You can also use the category facility below to filter by category.
Welcome to the Events listings for the Pontardawe Arts Centre Simply choose an event from the list below or select a date to view. You can also use the category facility below to filter by category.
Annwyl pawb,
|
Mae gyda ni gymaint i’w ddweud, er bod pethau’n dal i fod yn dawel iawn ar hyn o bryd yn niwydiant y Celfyddydau ac yng Nghanolfan y Celfyddydau. Serch hynny, ar ôl cyfarfodydd tîm wythnosol di-rif ar-lein mae ein cynlluniau ar gyfer gweithgareddau gweddill y flwyddyn yn dechrau toddi’n un.
Mae’r rhan fwyaf o aelodau Tîm Canolfan y Celfyddydau yn dal i gael eu hadleoli, ond rydym yn dal i ganolbwyntio ar anghenion y safle. Ond gan fod pedwar aelod o’n staff yn gweithio ar y timau Profi, Ôl-rhain, Diogelu; un wedi’i secondio i dîm cyfathrebiad corfforaethol y Cyngor; ac un yn gweithredu gyda’n cydweithwyr ni ym Mharc Gwledig Margam, ’dyw hi ddim wedi bod yn hawdd inni gael amser i symud ymlaen fel tîm.
Ond chwarae teg, dyn ni wedi gwneud ein gorau glas i gadw mewn cysylltiad a chwrdd ar-lein yn rheolaidd er mwyn dal yn gyfwastad â datblygiadau newydd a pharhau i rannu syniadau creadigol.
Yn anffodus, mae problemau personol wedi codi i rai ohonom ar adeg pan mae pethau’n eithaf anodd inni i gyd. Mae hyn, ar ben seibiant yr haf, wedi peri oediad yn ein negeseuon marchnata wythnosol a hoffen ni ymddiheuro am hynny. Ond teimlwn er gwaethaf popeth taw dyma’r amser delfrydol inni ymdrechu eto i ymestyn allan tuag at ein noddwyr, ein cefnogwyr a’n cwsmeriaid.
Er i’r cyfnod clo ddod i ben, dyn ni’n deall ymateb gochelgar llawer o bobl rhag ofn y gwelir ail don yn ymddangos yn y man. Ond wedi dweud hynny, mae’r cyhoedd yn disgwyl, fel ninnau yma yng Nghanolfan y Celfyddydau, i bethau ddechrau symud drachefn.
Rydym wedi clywed dymuniad a gobeithion llawer ohonoch y bydd yr adeilad yn ail-agor ar gyfer dosbarthiadau, ffilmiau a digwyddiadau lle gall pobl gadw pellter cymdeithasol. Yn anffodus, er mor awyddus ydyn ni i ddatgan dyddiad ail-agor pendant, mae’n amhosibl inni wneud hyn oherwydd natur anghyson y sefyllfa gyflym newidiol ynghylch Cofid-19.
Ond gallwn ni eich hysbysu am y cynllun sydd gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot i ail-agor yr adeilad fesul cam i’r cyhoedd:
CAM UN |
Ail-lenwi Canolfan Celfyddydau Pontardawe â staff sgerbwd – sef y rhai nad ydynt wedi cael eu hadleoli ac a ystyrir yn hanfodol bwysig o safbwynt gwaith cynnal a chadw, Iechyd a Diogelwch, gweinyddiaeth a pharhad gwasanaethau. |
Parheir i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn – ebyst wythnosol a chyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol – rheoli’r rhaglen newidiol wrth i ddigwyddiadau gael eu trosglwyddo, a delio â gweithgareddau ad-dalu prisiau tocynnau |
Dechrau gwaith ar addasu’r adeilad i hyrwyddo diogelwch y staff ar ôl inni ail-agor – e.e. sgriniau, cyfarpar diogelu personél, opsiynau di-docyn, gwerthiannau heb drosglwyddo arian parod
|
CAM DAU |
Ail-agor ar gyfer dosbarthiadau cyfranogol gan gadw at gyngor y llywodraeth – nid y cyhoedd cyffredinol (gan hyrwyddo busnesau ein hymarferwyr) – Cynghori ymarferwyr ynghylch arferion diogel a dal yn llawn at y cyngor ynghylch cadw pellter
|
CAM TRI |
Ail-agor Canolfan y Celfyddydau gan gadw at gyngor y llywodraeth ynghylch dosbarthiadau, yr oriel a dangos ffilmiau a chadw pellter cymdeithasol Addasu’r oriau agor yn ôl yr angen |
CAM PEDWAR |
Ail-agor Canolfan y Celfyddydau ar gyfer digwyddiadau byw –gan gadw at gyngor y llywodraeth
|
Y Gyfarwyddiaeth Amgylcheddol wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar y cynllun i adeiladu’r sinema newydd; bwriedir penodi’r cwmni pensaernïol Childs Sulzmann (www.cs-architects.co.uk) ym Mryste i ddatblygu brîff dylunio, gyda’r nod o ddechrau’r gwaith yn 2021.
Y cwbl sydd ar ôl gyda ni i’w ddweud yw ein bod ni ar ben ein digon wrth glywed a darllen geiriau caredig pobl ynghylch y Ganolfan, ac wrth ddysgu mor awyddus ydyn nhw i wybod pryd byddwn yn ei hail-agor. Fe ffarweliwn â chi am y tro gan obeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iach a datgan ein bod yn hiraethu am weld unwaith eto ein cynulleidfaoedd, y dysgwyr dosbarth, yr aelodau a phawb yn nheulu mawr Canolfan y Celfyddyau yr ydym i gyd yn rhan ohono.
By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information
The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.